Our Homes
The local area about North Wales: PRESTWOOD HOMES are all based along the North Wales coast

Care Standards
The wishes and expectations of each individual with learning.....

News
Pulp is our inter-house magazine, full of all our latest house news and company updates

Careers
There is always room for improvement in any organization, therefore.....

Newsletter
Please subscribe me to your newsletter:
 
Cartref Preswyl Prestwood Residential Home

Golwg Cyffredinol y Cwmni
Cartref Preswyl Prestwood Residential Home Cyf. (Rhif Cwmni 04129564)

Ein nod yw hyrwyddo safon dda of fyw. Mae dymuniadau a disgwyliadau bob unigolyn ag anawsterau dysgu ac / neu anawsterau meddyliol yn cael eu hystyried yn gyntaf . Ar yr un pryd, mae preswylwyr Cartrefi Preswyl Prestwood a mynediad at wasanaeth o’r safon uchaf, gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n addas ar gyfer eu hanghenion ac sydd yn werth am arian, a bod defnyddwyr y gwasanaethau a’u gofalwyr neu gynrychiolwyr yn gwbl ymglymedig yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae’n hathroniaeth yn seiliedig ar weithio tuag at lwyddiant wrth dderbyn yr angen i fod yn hyblyg. Defnyddir dull ddi-anhymell a chydweithredol, gyda’r pwyslais ar adeiladu perthnasau bositif. Nid yw preswylwyr yn cael eu barnu am eu hymddygiad, ond mae anogaeth i ddatblygu hunan-barch. Ni ddefnyddir cosbau negatif.

Drwy’r modd yma gallwn gyflawni ein nod o alluogi ein preswylwyr i oresgyn yr anawsterau sydd wedi achosi iddynt golli eu lle yn y gymdeithas, ac i gyrraedd y lefel uchaf bosib o weithredu y gallant.

Golyga hyn fod hawl y preswylydd i fywyd normal yn cael sylw blaenllaw. Mae preswylwyr i gyd a’r hawl i breifatrwydd ac urddas a derbyniant goriad i’w ‘stafelloedd er mwyn eu cloi tra’u bod allan. Tra bod preswylydd yn ei ystafell mae modd iddynt gloi'r drws o’r tu fewn ac mae’r staff i gyd a chyfarwyddyd i gnocio ac aros, nes y byddant yn cael gwahoddiad gan y preswylydd i fynd i mewn. Rydym yn darparu goriad i flwch diogel i’r preswylwyr er mwyn cadw arian a phethau gwerthfawr. Mae’r ystafelloedd ymolchi a’r toiledau i gyd o fewn Prestwood a chlo ar y tu fewn er mwyn diogelu preifatrwydd y preswylwyr.
Heblaw hyn, polisi Prestwood yw peidio â defnyddio dulliau atal ar ddefnyddwyr gwasanaeth oni bai bod Tîm Amlddisgyblaethol defnyddiwr gwasanaeth unigol wedi caniatáu hynny, a bod staff wedi eu hyfforddi’n benodol mewn dulliau atal addas ar gyfer y preswylydd unigol hwnnw’n unig. Hyfforddir y staff i gyd mewn technegau ymyrryd mewn argyfwng, di-drais gan hyfforddwyr cymwys, gan gynnwys defnyddio dulliau llafar leddfu digwyddiad trwy’r egwyddor o orfodi ymddygiad da’n gadarnhaol ac anwybyddu ymddygiad gwael neu anaddas pan fydd hynny’n bosib’.

Dewiswn ein staff ar sail ansawdd eu dibynadwyedd, gonestrwydd, sgiliau, cyfeillgarwch a phroffesiynoldeb. Cymerwn ofal wrth eu sgrinio ac edrychwn yn drylwyr ar eu canolwyr. Mae’n ofynnol bod ein staff i gyd yn cael eu profi gan y Biwro Recordiau Troseddwyr.

Uwchlaw popeth rydym yn parchu hawl y preswylydd i fyw bywyd normal a chredwn fod Cartrefi Preswyl Prestwood yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r ansawdd uchaf, sy’n eu galluogi i fyw bywyd urddasol gan adeiladu hunan-barch.

Prestwood Residential Homes Ltd.
49, Conway Road,
Colwyn Bay, Conwy.
LL29 7AW
Tel : 01492 535 297